Maes gwyrdd gyda chilgant melyn ar ei ochr â seren felen uwch ei ben yn y canol, a stribedi cochion llorweddol ar y brig a'r gwaelod yw baner Mawritania. Symbolau Islamaidd yw'r seren a chilgant a lliw traddodiadol Islam yw gwyrdd; yn ogystal, lliwiau pan-Affricanaidd yw melyn a gwyrdd. Mabwysiadwyd ar 1 Ebrill, 1959, blwyddyn cyn i'r wlad ennill annibyniaeth lwyr ar Ffrainc.[1]
Ar 5 Awst 2017, pleidleisiodd 86% o etholwyr dros newid y faner i gynnwys stribedi coch ar hyd ei brig a'i gwaelod, i symboleiddio'r gwaed a gollwyd yn y frwydr dros annibyniaeth. Roedd y refferedwm yn ymwneud â sawl newid arall i'r cyfansoddiad, gan gynnwys diddymu'r senedd.[2]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search